Items related to Dianc i Ryddid - Rhyfel D. T. Davies

Dianc i Ryddid - Rhyfel D. T. Davies - Softcover

 
9781785620652: Dianc i Ryddid - Rhyfel D. T. Davies
View all copies of this ISBN edition:
 
 
Hunangofiant dirdynnol cyn-garcharor rhyfel yn yr Ail Ryfel Byd, sef, D T Davies, Dryslwyn, sir Gaerfyrddin, yn dilyn ei bererindod i Awstria am y tro cyntaf ers iddo ddianc o'r wlad 70 mlynedd yn ôl. The harrowing autobiography of former World War II Prisoner of War D T Davies of Dryslwyn, Carmarthenshire, following his pilgrimage to Austria for the first time since his escape from the country 70 years ago.

"synopsis" may belong to another edition of this title.

Review:
'Rhyddid yw sail heddwch,' meddai'r awdur ar ddechrau'r stori ryfeddol hon. Yn garcharor rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe lwyddodd droeon i ddianc o grafangau'r Natsaid. Mae stori D. T. Davies yn un arwrol am iddo oroesi, er iddo fod yn dyst i greulondeb erchyll, ac am iddo fynnu'r hawl sylfaenol honno i fod yn rhydd. Gyda'r Ail Ryfel Byd wedi dod i ben ers dros saith deg o flynyddoedd bellach, mae'n anodd inni ddychmygu'r profiadau erchyll a gafodd awdur y gyfrol hynod hon. Ac yntau bellach yn 97 mlwydd oed, mae ganddo gof rhyfeddol o fyw am y golygfeydd eithriadol o greulon a welodd fel milwr ifanc ddechrau'r pedwardegau pan fu'n garcharor rhyfel am dair blynedd. Gwr o gefndir gwledig cyffredin yn sir Gaerfyrddin ydoedd a chafodd brofiadau hollol anghyffredin oherwydd amgylchiadau unigryw rhyfel byd. Darlledwyd y rhaglen ddirdynnol Rhyfel D. T. Davies: Heb Ryddid, Heb Ddim ar S4C am y tro cyntaf nos Sul y Cofio, 10 Tachwedd 2013, gan ei ddilyn ar bererindod yn l i Awstria am y tro cyntaf ers iddo ddianc o'r wlad 70 mlynedd yn l. Ac ar y daith roedd y gwr 95 oed (ar y pryd hwnnw) o Ddryslwyn, sir Gaerfyrddin, yn rhannu'r hanes gyda'i dri o feibion, a hynny am y tro cyntaf . Cawn gyfle yma i ddarllen am y cyfnod a dreuliodd, ac yntau'n 21 mlwydd, ym Mharc Cinmel, y Rhyl, wrth iddo dderbyn hyfforddiant ar gyfer gwasanaethu yn y Royal Artillery, ac am y profiadau a gafodd o fewn anialdir yr Aifft. Yna yng Ngwlad Groeg cymerodd ran ym mrwydr ddychrynllyd Ynys Creta lle cipiwyd ef gan y Natsaid a threulio cyfnod estynedig a phoenus, fel amryw eraill yr adeg argyfyngus honno, yn garcharor rhyfel. Cafodd ei gaethiwo am gyfnodau pur faith mewn gwersylloedd rhyfel a charchardai yn Awstria, Hwngari ac Iwgoslafia fel ei gilydd. Yr hyn a'i cynhaliodd drwy gydol yr adeg oedd yr ysfa gynyddol i ddianc oddi yno a sicrhau un hawl sylfaenol, sef cael byw'n rhydd unwaith eto. Sonia'r awdur iddo dreulio cyfnod yn ngwersyll rhyfel Stalag 18A lle cafodd ei drin, gyda rhai cannoedd o Brydeinwyr eraill a oedd yno ar yr un adeg, yn hollol warthus gan yr Almaenwyr. Deuai parseli'r Groes Goch i law yno'n rheolaidd i gynnig ychydig o foethau a chysur iddynt o Brydain a chodi eu calonnau. Cawn ddarllen am hanes y miloedd o Rwsiaid oedd yn y gwersyll hwnnw ar y pryd ac yn cael eu trin fel anifeiliaid gan yr awdurdodau, a'r Prydeinwyr calonfeddal yn taflu ychydig o fwyd atynt er mwyn ceisio eu hatal rhag llwgu, a hwythau'n ymladd ymhlith ei gilydd am y tameidiau bach hyn. Roedd rhai o'r rhain yn marw'n feunyddiol oherwydd prinder maith a salwch y teiffws a oedd mor gyffredin yn eu plith yno. Ac yna daeth pethau gryn dipyn yn well i D. T. Davies yn ddiweddarach pan ddaeth cyfle i fynd allan i weithio ar ffermydd yn Awstria ym 1943, mewn lle o'r enw Gass lle'r oedd modd cael awyr iach a chyflenwad o fwyd, gan dderbyn croeso gan y brodorion lleol. Ceisiodd ddianc oddi yno sawl tro, gan lwyddo i ffoi dros y ffin i Hwngari. Ond cafodd ei ddal unwaith eto, a'i yrru i wersyll Sajmite mewn lle o'r enw Zemun ar gyrion Belgrad. Yno fe welodd greulondeb erchyll, a bu farw 20,000 o bobl yn y gwersyll. 'Welais i ddim lle mwy anwar yn fy myw. Roedd hi'n anodd credu beth oedd wedi digwydd yno ... Dyma beth oedd uffern ar y ddaear yn ddi-os.' A chawn ddarllen ychydig o fanylion am y Natsaid yn gwenwyno'r Iddewon i farwolaeth, yn henoed a phlant, ac am ddigwyddiadau erchyll eraill yn y lle ofnadwy hwn. O'r fan honno fe lwyddodd D. T. Davies unwaith eto i ddianc, a hynny am y tro olaf. Ymunodd 'r Partisaniaid ac ymladd yn erbyn yr Almaenwyr yn Iwgoslafia, cyn dychwelyd adref yn hydref 1944. Dyfarnwyd iddo'r wobr MM (Military Medal) yn sgil ei gyfraniad a'i aberth dros nifer o flynyddoedd. Ac, i gloi'r gyfrol, rhoddir inni gipolwg ar fywyd D. T. Davies yn l yn ei sir enedigol o 1945 ymlaen. Gwnaeth gyfraniad pwysig i'w ardal a'i sir. Diolch i'r awdur am ei ymdrech a'i ymroddiad yn llunio testun difyr a darllenadwy, i Wasg Gomer am gyhoeddi'r gyfrol ac am gynnwys nifer fawr o ffotograffau a ddewiswyd yn ofalus o'r albwm teuluol. Bydd yr atgofion hyn yn ein gorfodi i ystyried hanes a aeth, i raddau helaeth, yn angof i'r to iau, ac mae'r hanes sydd rhwng y cloriau hyn yn agoriad llygad i ddarllenwyr o bob oed. J. Graham Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

"About this title" may belong to another edition of this title.

  • PublisherGomer Press
  • ISBN 10 1785620657
  • ISBN 13 9781785620652
  • BindingPaperback

Shipping: US$ 12.68
From United Kingdom to U.S.A.

Destination, rates & speeds

Add to Basket

Top Search Results from the AbeBooks Marketplace

Stock Image

D.T.A. Davies/ Ioan Wyn Evans
Published by Gomer Press (2015)
ISBN 10: 1785620657 ISBN 13: 9781785620652
New Paperback Quantity: 1
Seller:
Revaluation Books
(Exeter, United Kingdom)

Book Description Paperback. Condition: Brand New. 250 pages. 8.43x5.85x0.73 inches. In Stock. Seller Inventory # __1785620657

More information about this seller | Contact seller

Buy New
US$ 11.57
Convert currency

Add to Basket

Shipping: US$ 12.68
From United Kingdom to U.S.A.
Destination, rates & speeds