Review:
Maer gyfrol ddeniadol hon yn adargraffiad or llyfr a gyhoeddwyd gyntaf gan Wasg Aberystwyth yn 1940 ac sydd wedi ei ailgyhoeddi yn haeddiannol nifer o weithiau oddi ar hynny. Yr unig wahaniaeth y tro hwn yw fod rhagair newydd ir gwaith, wedii lunio gan Dr Robin Chapman. Mae ef, wrth ganmol yr hen benillion, yn sn am eu dawn gynhenid, yn sgil gwyrth eu goroesiad, in llygad-dynnu. Casgliad ywr gyfrol o benillion a fu ar gof gwlad ers canrifoedd, ond a gofnodwyd ar bapur rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg ar ugeinfed ganrif. Yn y cyfamser, ers ir gyfrol hon weld golau dydd gyntaf, fe ymddangosodd dwy gyfrol hylaw arall o benillion cyffelyb, wediu golygu gan Tegwyn Jones: Tribannau Morgannwg (Llandysul: Gwasg Gomer, 1976), casgliad o benillion ar fesur penodol syn gysylltiedig ag ardal arbennig o Gymru, ac Ar dafod gwerin: penillion bob dydd (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004) syn ychwanegiad pellach o benillion amrywiol. Atgynhyrchwyd cyfrol wreiddiol T. H. Parry-Williams yma fwy neu lai air am air, gan gynnwys y nodiadau testunol, yr ymdriniaeth ar y ffynonellau printiedig a llawysgrif, ar mynegai ir llinellau cyntaf. Diogelwyd y dosbarthiad gwreiddiol dan y pynciau canlynol: doethineb, profiad, bywyd, hanes, cyfeddach, canu, natur, serch a ffraethineb. Fel y dywedir yn y rhagair newydd: Gorwedd eu cyfrinach . . . yn eu mater ac yng ngwead y penillion eu hunain. Cyfyng yw eu byd a chyfyng a phenodol ywr ymdriniaeth. Or herwydd, maent yn cynnig y boddhad syn codi o gymryd testun ai ddiwallu. Maen sicr fod y gyfrol hon dros y blynyddoedd wedi sicrhau bod nifer or hen benillion hyn wedi aros ar gof gwlad yn hytrach na mynd i ebargofiant, ac wedi profin fwynglawdd defnyddiol i athrawon ac eraill. Mae yma rai penillion cyfarwydd iawn fel Gwyn eu byd yr adar gwylltion . . ., Afon Conwyn llifon felyn . . . ar gyfres Hiraeth syn dechrau r llinell Dwedwch fawrion o wybodaeth, ond mae yma nifer o rai eraill syn dal yn gymharol anghyfarwydd inni hyd heddiw. Diolch bod Syr T. H. Parry-Williams wedi gweld yn dda iw cywain ynghyd dros drigain mlynedd yn l, a diolch hefyd i Wasg Gomer am yr argraffiad newydd hwn. Dafydd Ifans Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
"About this title" may belong to another edition of this title.