Ar un olwg cywaith yw'r hunangofiant hwn (er nad yw'r awdur yn barod i'w alw yn hunangofiant). Cawn ragair i'r llyfr gan Jamie Bevan ac fe gynhwysir hefyd gyfweliad rhyngddo ef a Tedi Millward. Mae'r cyfweliad hwn wedi ei wasgaru trwy'r gyfrol ar ei hyd. Addas iawn yw'r cydweithio hwn gan mai Tedi Millward oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (fo roddodd i'r mudiad ei enw), a Jamie yw'r cadeirydd presennol. Mae'r cysylltiad rhyngddynt yn mynd ymhellach na hynny hyd yn oed, gan fod gwreiddiau'r ddau ym Merthyr. Ond un o Gaerdydd yw'r awdur a chawn hanes ei fagwraeth yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Diddorol hefyd nodi fod teitl y gyfrol, Taith Rhyw Gymro, yn adleisio'r enw ar hunangofiant arall gan wr o'r brifddinas. Tyfu'n Gymro gan W. C. Elvet Thomas yw'r hunangofiant hwnnw. I Elvet Thomas, o bosib, yn fwy na neb arall mae'r diolch am gyflwyno'r Gymraeg i Tedi Millward a gwneud Cymro tanbaid ohono. Ond nid tredigaeth o ran yr iaith Gymraeg yn unig a gafodd ond un o ran heddychiaeth hefyd. Ymddengys fod dylanwad y capel (lle byddai'n mynd i wrando ar y Gymraeg yn cael ei defnyddio a'i llefaru) yn bwysig yn hyn o beth. Bu'r awdur (fel Hywel Teifi Edwards) yn aelod o'r Air Training Corps, ac mae tipyn o bellter rhwng y diddordeb hwnnw a chael ei hun yn protestio fel heddychwr yn Nhrawsfynydd a gwrthod gwneud ei wasanaeth milwrol. Cyflawnodd lawer yn ystod ei fywyd. Gwnaeth waith arloesol a phwysig ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith. Nodwyd eisoes iddo chwarae rhan allweddol pan sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu'n un o sefydlwyr Cymdeithas Cynghorau Bro Cymru ac yn weithgar yn rhengoedd Plaid Cymru am flynyddoedd. Cofiaf ef yn sefyll dros y Blaid ym Maldwyn ac fe fyddwn wedi hoffi mwy am yr ymgyrch honno, boed hynny am resymau personol, gan mai honno yw fy etholaeth i. Yn y flwyddyn y safodd Millward ym Maldwyn, Delwyn Williams oedd ymgeisydd y Toraid yn yr etholaeth. Yn 1979 daeth y dyn rhyfeddol hwnnw yn Aelod Seneddol tros y sir. Beth oedd barn Millward amdano, tybed? Rhaid dweud, er hynny, mai pur anaml y bydd yr awdur yn dweud dim byd cas am neb. Am y rhan helaethaf o'i oes bu'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac mae'n un o'n harbenigwyr ar lenyddiaeth Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r rhestr o'i gyhoeddiadau a geir yng nghefn yr hunangofiant yn werthfawr iawn, gyda llaw. Er cymaint a wnaeth, mae yna berygl i Tedi Millward gael ei gofio yn unig fel y dyn a ddysgodd Gymraeg i Dywysog Cymru. Mae'r bennod ar y cyfnod hwn yn eithriadol ddiddorol ac yn gyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o hanes yr Arwisgo. Dywedais gynnau nad oedd yr awdur odid byth yn chwyrn wrth neb. Yr eithriad efallai yw George Thomas a oedd yn Ysgrifennydd Cymru yn 1969. Gwendid y gyfrol hon yw ei byrder. Ychydig iawn o fanylion a gawn am ei fywyd personol ar l dyddiau ei ieuenctid. Synhwyrir fod yna boen, trallod ac afiechyd na chyffyrddir rhyw lawer hwy yma. Ond er mor gryno yw'r gwaith, mae hwn yn gyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o Gymru'r ugeinfed ganrif ac yn rhoi cyfle i ni ddod i adnabod yn well un o 'gewri tawel' ein cenedl. Dafydd Morgan Lewis Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
"About the title" may belong to another edition of this title.