Mary Eunice Williams

Ganwyd Mary Eunice Williams ar fferm Bryndafydd Uchaf, Esgairdawe ar Ragfyr 4ydd, 1923, yn ferch i George a Mary Anne George. Derbyniodd ei haddysg gynradd yn Ysgol Esgairdawe ac yna ei haddysg uwchradd yn Ysgol Bryn Road, Llanbedr Pont Steffan. Yn ddiweddarach, astudiodd yng ngholeg hyfforddi Abertawe lle derbyniodd gymhwyster C.M. Ym 1943, dan nawdd Coleg Cerdd Llundain, enillodd gymhwyster A.L.C.M. Athrawes oedd hi yn ôl ei galwedigaeth gan dreulio nifer o flynyddoedd hapus fel prifathrawes yn Ysgol Esgairdawe. Priododd â Walter Elwyn Williams yng nghapel Esgairdawe ym 1957. Ganwyd dwy o ferched iddynt yn y blynyddoedd dilynol. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan ddwywaith a hynny ym 1980 a 1988. Gorffennodd ei gyrfa yn Ysgol Gynradd Abergorlech ym 1982 gan gyhoeddi Hanes Ysgol Esgairdawe yn yr un flwyddyn. Ym 1992, cyhoeddodd ei hail lyfr sef Hanes Eglwys Annibynnol Esgairdawe. Bu farw ar Ionawr 20fed, 2010 yn 86 mlwydd oed. Melys yw’r cof amdani.

Mary Eunice Williams was born in Bryndafydd Uchaf farm, Esgairdawe on December 4th, 1923, the daughter of George and Mary Anne George. She received her early education at Ysgol Esgairdawe and then her secondary education at Bryn Road School, Lampeter. She later studied at Swansea training college where she received the qualifcation C.M. In 1943, under the London College of Music, she obtained the qualification A.L.C.M. She was a teacher by profession and spent many happy years as a head teacher at Ysgol Esgairdawe. She married Walter Elwyn Williams at Esgairdawe chapel in 1957 and later had two daughters. She won the Prose Medal twice at the Pantyfedwen Eisteddfod, Lampeter, in 1980 and 1988. She finished her career at Abergorlech Primary School in 1982 publishing Hanes Ysgol Esgerdawe in the same year. In 1992, she published her second book, Hanes Eglwys Annibynnol Esgairdawe. She died on January 20th, 2010 at the age of 86 years. Fond memories of a much loved mother and grandmother.

Popular items by Mary Eunice Williams

View all offers